Y Pwyllgor
Menter a Busnes
Dyddiad: 20 Hydref 2011
Amser: 10:00am hyd 11:00am
Teitl: Papur tystiolaeth - Llywodraeth Leol a Chymunedau,
Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer Trafnidiaeth 2012-13
1. Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn rhoi sylwadau a gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cynigion
cyllidebol ar gyfer y rhaglenni Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r dyfodol, fel
y’u hamlinellir yn y Gyllideb Ddrafft a osodwyd ar 4 Hydref 2011. Mae'n ymdrin
â’r meysydd hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes, sef
Trafnidiaeth.
2. Cefndir
O gymharu â'r cynlluniau dangosol ar gyfer 2012-13 a gyhoeddwyd yng Nghyllideb
Derfynol 2011-12 (fel y’u hailddatganwyd yn seiliedig ar y strwythur newydd yng
Nghyllideb Atodol Gyntaf 2011-12), mae dyraniad y Gyllideb Drafnidiaeth o fewn
cyfanswm y dyraniad MEG Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gostwng £ 61.4m yn
2012-13 a £ 61.4m yn 2013-14. Mae'r cynllun dangosol ar gyfer 2014-15, a
gyhoeddir am y tro cyntaf, £0.7m yn fwy nag yn 2013-14. Daw’r newidiadau hyn o
ganlyniad i ostyngiad mewn cyllidebau nad ydynt yn arian parod, sy’n cael ei
egluro yn nes ymlaen yn y papur hwn, a dyraniad ychwanegol yn 2014-15 o ran
Tocynnau Teithio Rhatach.
Mae'r tabl ariannol cryno canlynol yn dangos yr effaith gyffredinol ar y
gyllideb Drafnidiaeth gyda chyllideb sylfaenol y Terfyn Gwariant Adrannol
(DEL). Nid yw hyn yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) sydd y tu
allan i DEL Llywodraeth Cymru. Mae'r tabl hefyd yn dangos y newid i’r gyllideb
yn ariannol mewn £000 ac yn ganrannol, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a’r
newid ariannol mewn £000 o gymharu â’r gyllideb flaenorol (mewn llythrennau
italig).
Tablau Ariannol Cryno:
Trafnidiaeth
£000
|
2011-12 |
2012-13 |
2013-14 |
2014-15 |
DEL Refeniw |
436,263* |
432,729 |
434,830 |
435,571 |
Newid mewn £000 o Gymharu â’r Cynllun Blaenorol |
|
(61,419) |
(61,419) |
741 |
DEL Cyfalaf |
234,397 |
218,023 |
194,349 |
194,349 |
Newid mewn £000 o Gymharu â’r Cynllun Blaenorol |
|
0 |
0 |
0 |
Cyllideb Sylfaenol y DEL |
670,660 |
650,752 |
629,179 |
629,920 |
Newid mewn £000 o Gymharu â’r Cynllun Blaenorol |
|
(61,419) |
(61,419) |
741 |
* Fel y’i hailddatganwyd yn y Gyllideb Atodol Gyntaf
Ceir dadansoddiad o'r gyllideb sylfaenol a’r newidiadau arfaethedig hyd at
lefel y Camau Gweithredu yn Atodiad A.
3. Trosolwg o’r Gyllideb
Mae trafnidiaeth yn faes sy’n galluogi sawl agwedd o’r economi yng Nghymru. O
fewn maes trafnidiaeth ein nod yw cefnogi cymdeithas fodern sy'n cynnwys
lefelau uchel o symudedd. Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad
hanfodol at leihau tlodi drwy gefnogi twf economaidd, cysylltu pobl â swyddi, symud
cynnyrch i farchnadoedd a chefnogi masnach ddomestig a rhyngwladol; a thrwy
hynny yn helpu i hyrwyddo mwy o gynhwysiant cymdeithasol a sicrhau bod
cymunedau’n gynaliadwy.
Fel rhan o'r Gyllideb Ddrafft, dyrannwyd £0.7m yn ychwanegol yn 2014-15 ar
gyfer teithiau bws am ddim i bensiynwyr a phobl anabl a'u gofalwyr.
Y newid mawr arall i’r dyraniadau Refeniw Trafnidiaeth yw bod y gyllideb
Drafnidiaeth nad yw’n arian parod yn gostwng £61.5m o 2012-13 ymlaen. Mae'r
gyllideb hon yn darparu ar gyfer dibrisiant y rhwydwaith cefnffyrdd a’r
amhariad arni. Er y gall fod yna gryn dipyn o amrywiaeth yn y taliadau yn erbyn
y gyllideb hon, ar sail y perfformiad alldro blaenorol cytunwyd y bydd y
gyllideb yn aros yn ddigyfnewid ar lefelau 2011-12 o £108.7m. Bydd adolygiadau
parhaus o’r tueddiadau ym mhrisiad a thaliadau dibrisiant y cefnffyrdd yn
parhau i lywio lefel y ddarpariaeth nad yw’n arian parod fydd yn ofynnol i’r
dyfodol.
Yn olaf, mae'r dyraniad Refeniw Trafnidiaeth o 2012-13 ymlaen hefyd yn cynnwys £0.130m
atodol yn sgil trosglwyddo cyllid SUSTRANS o faes yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy.
Mae proffiliau’r cyllidebau o fewn maes Trafnidiaeth wedi’u haddasu. Gan fod y
cyllidebau hyn yn ymwneud â darpariaeth uniongyrchol, yn ogystal â rheoli
cynlluniau a phrosiectau amrywiol megis Adeiladu Ffyrdd a Thocynnau Teithio Rhatach,
bu’n rhaid newid proffiliau’r ddarpariaeth a’r galw. Mae’r newidiadau i'r
dyraniadau refeniw ar lefel Camau Gweithredu yn adlewyrchu'r amcangyfrifon
diwygiedig ar gyfer gweithgareddau sy'n ymateb i'r galw, megis Hawliadau
Trydydd Parti, a diwygiadau i’r cydbwysedd refeniw / cyfalaf o fewn y Grant
Diogelwch Ffyrdd.
Bydd y cyllidebau cyfalaf ar gyfer Trafnidiaeth yn parhau i fod yn gyfyngedig,
gyda gostyngiadau o gymharu â lefelau 2011-12 yn unol â’r cynlluniau a
gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae’r newidiadau i'r dyraniadau cyfalaf ar lefel Camau
Gweithredu yn deillio o addasu prosiectau rheilffyrdd mawr, ac addasu costau
adeiladu cynlluniau ffyrdd.
4. Y Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog
Mae’r
ceisiadau am gyllid cyfalaf ychwanegol yng Ngham 1 y Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn
Ganolog wedi’u cymeradwyo. Bydd y rhain yn werth cyfanswm o £14.2m dros y
cyfnod 2011-12 i 2012-13. Y prosiectau a gymeradwywyd yw Gwelliant A470 Maes yr
Helmau i Cross Foxes (£5.2m), A470 Gelligemlyn (£6.0m), a gwelliannau i'r
seilwaith rheilffyrdd ar rwydwaith Cymoedd Caerdydd (£2.96m). Gwneir y
dyraniadau ar gyfer y rhain drwy broses y Gyllideb Atodol.
Rydym yn trafod camau nesaf proses y Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog gyda’r
tîm Buddsoddi Strategol.
Mae pwyslais y cymorth ar gyfer ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, o ran y
gyllideb sydd ar gael, yn parhau i fod ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn parhau
i godi o 61% yn 2011/12 i 64% 2012/13 (heb gynnwys adnoddau nad ydynt yn arian
parod a benthyciadau â chymorth). Bydd ymarfer blaenoriaethu y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol, a drafodir yn ddiweddarach yn y papur hwn, yn pennu
beth fydd y cydbwysedd hwn yn y dyfodol.
5. Y Rhaglen
Lywodraethu
Mae’r blaenoriaethau tymor byr a hirdymor ar gyfer Trafnidiaeth yn cynnwys y
canlynol:
• Blaenoriaethu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol;
• Achosion busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe a
Thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd;
• Parhau â’r cynllun Teithio Rhatach ac ymestyn y cynllun i gynnwys cyn-filwyr
a anafwyd yn ddifrifol;
• Deddfwriaeth yn y maes Cerdded a Beicio.
Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol
Nid yw'r Gyllideb Ddrafft yn adlewyrchu effaith bosibl blaenoriaethau’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni. Mae gwaith ar y
gweill i flaenoriaethu ymyriadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol er mwyn
sicrhau bod y cyllid trafnidiaeth presennol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol
a bod lefel yr adnoddau yn gwella. Mae'r ymarfer blaenoriaethu yn ceisio
sicrhau mwy o gydweithio ag awdurdodau lleol, a rhyngddynt. Pan wneir
penderfyniadau buddsoddi i’r dyfodol, rhoddir blaenoriaeth i sicrhau mwy o
symudedd a hwyluso datblygiad economaidd a chymdeithasol. Bydd ymyriadau yn
cael eu hystyried ar sail eu cyfraniad at wella capasiti a dibynadwyedd y prif
goridorau strategol Traws-Ewropeaidd o'r dwyrain i'r gorllewin yng Nghymru.
Cyllido Rheilffyrdd
Rhennir y ddarpariaeth ar gyfer Cyllid Rheilffyrdd yn y cyfnod 2012/13 -
2014/15 rhwng darparu gwasanaethau a gwella seilwaith y rhwydwaith fel a ganlyn
£000
|
2012-13 |
2013-14
|
2014-15
|
Darparu Gwasanaethau |
172,371 |
171,579 |
171,579 |
Seilwaith y Rhwydwaith |
47,142 |
27,426 |
27,426 |
Mae proffil Seilwaith y Rhwydwaith yn adlewyrchu proffiliau’r prosiectau arfaethedig gan gynnwys y buddsoddiad De i'r Gogledd sylweddol sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru system reilffyrdd fodern
ac effeithlon. Bydd trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru yn allweddol i hyn ac
rydym yn cydweithio'n agos â’r Adran Drafnidiaeth (DfT) i adolygu'r achos
busnes dros drydaneiddio yr holl ffordd i Abertawe, yn ogystal â datblygu’r
achos busnes dros Drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd. Mae Trafnidiaeth hefyd yn
edrych ar sut orau i fwrw ymlaen â'r ymrwymiad i fynd ar drywydd datganoli mwy
o benderfyniadau i Gymru, er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fwy o
ddylanwad dros y rheilffyrdd yng Nghymru, ac atebolrwydd amdanynt. Mae'r
datblygiadau allweddol hyn yn ymwneud â pholisi, felly ni fydd yna unrhyw oblygiadau
o ran gwariant o fewn cyfnod y Gyllideb hon.
Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol hefyd yn ymdrin ag elfennau o’r
gweithgarwch rheilffyrdd, a bydd canlyniadau proses flaenoriaethu’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol yn dylanwadu ar union gydbwysedd y cyllid.
Tocynnau Teithio Rhatach
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau â’r cynllun Tocynnau Teithio Rhatach.
Cytunwyd ar becyn cyllid tair blynedd ar Docynnau Teithio Rhatach yn dilyn
trafodaethau gydag awdurdodau lleol a'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, gyda
chyfraniad y gyllideb Drafnidiaeth wedi’i gapio ar £59.4m yn 2011-12, a £62.9m
yn 2012-13 a 2013-14. Caiff y cydbwysedd rhwng cyllid cyfalaf a refeniw o fewn
y Gyllideb ei bennu yn ystod y flwyddyn, ar sail y galw am y cynllun a’i
weithrediad. Mae hyn yn cynnwys cytundeb i ymestyn y cynllun i gyn-filwyr a anafwyd
yn ddifrifol.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai’r Cynllun Tocynnau Trên Rhatach yn parhau ar
gyfer 2011/12 a 2012/13. Mae costau’r cynllun wedi’u cynnwys yn y cynlluniau cyllideb
hyn.
Disgwylir i’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol ddod i
ben ym mis Mawrth 2012, a bydd unrhyw gyllid ar gyfer y cynllun hwn yn y dyfodol
yn amodol ar flaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Deddfwriaeth Cerdded a Beicio
Rydym wedi ymrwymo, ynghyd â'n partneriaid, i gefnogi cerdded a beicio yng
Nghymru. Mae newid ymddygiad yn ganolog i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel bod mwy
o bobl, o bob oed, yn cerdded a beicio yn fwy aml. Rhaid i ni sicrhau bod ein
polisïau, ein deddfwriaeth, ein canllawiau a’n seilwaith yn cefnogi hyn. Fel
arall, ni fydd y newid ymddygiadol angenrheidiol yn digwydd ac ni fyddwn yn
gallu darparu’r manteision i gymdeithas yn gyffredinol, o ran ffyrdd o fyw
iachach a’n heffaith ar yr amgylchedd.
Bydd y Mesur Priffyrdd a Thrafnidiaeth (Llwybrau Beicio) yn creu sylfaen deddfwriaethol
mwy cadarn, a fydd yn sicrhau y gall awdurdodau lleol ddarparu trafnidiaeth
amgen wirioneddol, wedi’i hintegreiddio â dulliau trafnidiaeth eraill ac sy’n
briodol ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd angen i ni gynllunio ein buddsoddiad i ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd
diogel a deniadol i bobl feicio os ydym am i’n trefi a'n dinasoedd gystadlu yn
rhyngwladol.
£5m yw lefel gyfredol y cyllid ar gyfer gweithredu cynlluniau cerdded a beicio
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae’r cymorth ar gyfer Cerdded a Beicio yn
cael ei ystyried fel rhan o broses flaenoriaethu y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Ni
fyddwn yn rhoi pwysau deddfwriaethol gormodol ar awdurdodau lleol heb sicrhau
bod cefnogaeth briodol ar gael wrth gyflwyno cynlluniau yn ogystal â chyllid i
helpu i gyflawni a chynnal y cynlluniau hyn.
Canolfannau Teithio Cynaliadwy
Bydd y cyllid ar gyfer Canolfannau Teithio Cynaliadwy yn 2011-12 yn £4.5m o
arian cyfalaf a £1.5m o arian refeniw. Bydd lefelau cyllid y dyfodol yn amodol
ar ystyriaethau blaenoriaethu y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
6. Asesiadau o’r Effaith
Wrth bennu dyraniadau’r gyllideb, ystyriwyd yn ofalus effaith y newidiadau ar
gydraddoldebau. Fel rhan o broses gyllideb y llynedd, cynhaliwyd cryn dipyn o waith
i asesu effaith y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ar gydraddoldeb. Nid yw’r prif
dybiaethau sy'n sail i’r dyraniadau eleni wedi newid ers cynlluniau’r llynedd.
Mae’r cynnydd mewn dyraniadau ar gyfer blaenoriaethau megis y teithiau bws
am ddim i bensiynwyr a phobl anabl a'u gofalwyr yn 2014-15 hefyd yn
tanlinellu ein hymrwymiad i'r agenda cydraddoldeb. Cynhaliwyd Asesiad Effaith
Cydraddoldebau sylweddol o’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol fel rhan o’r
broses o’i ddatblygu ac mae hwn yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gymwys. Er
bod y proffiliau cyllid yn cael eu haddasu o fewn y cyllidebau, nid oes yna
unrhyw effeithiau posibl o ran cydraddoldebau.
Carl Sargeant AC
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau